Croeso i’n gwefan.
Rydym ni’n creu theatr berthnasol, unigryw, llawn dychymyg a gafaelgar, theatr hip-hop, dawns, ffilm, arddangosfeydd, digwyddiadau artistig a phrosiectau cymunedol.
Rydym ni’n creu llwyfan ar gyfer sgyrsiau drwy brofiadau diwylliannol. Crëwyd yn y Rhondda.
Mae ein cwmni’n creu Theatr Hip-Hop, Theatr Ysgrifennu Newydd, fersiynau newydd o ddramâu traddodiadol, gwyliau, ffilmiau, arddangosfeydd, gweithdai a dosbarthiadau rheolaidd yn y Rhondda, ac rydym yn arddangos y gwaith hwn gartref ac ar daith, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Rydym ni’n gweld theatr ar ei ffurf ehangaf, felly gyda ni fe allech chi fod yn cymryd rhan mewn drama, dawns, cerddoriaeth, ffilm, celfyddydau gweledol, celfyddydau llafar a mwy - mae’r rhain yn ffurfiau celf byw ac rydym ni’n archwilio’r holl bosibiliadau.
Mae diwylliant hip-hop yn chwarae rhan ganolog yn ein gwaith. Rydym ni’n credu mewn “Heddwch, Undod, Cariad a Hwyl”. Rydym ni’n credu y gall y dalent o’n cwmpas ddod at ei gilydd i gynhyrchu gwaith newydd unigryw, dilys ac anhygoel. Rydym ni’n falch o’r dylanwadau amrywiol sydd wedi siapio ein cymuned ac rydym ni’n gobeithio dathlu hyn yn holl waith Avant drwy gofio’r gorffennol, trafod y presennol a chreu’r dyfodol.
Felly gwnewch eich hun yn gartrefol ac edrychwch ar yr hyn rydym ni wedi’i wneud yn y gorffennol, beth sy’n digwydd yn y presennol a meddyliwch sut gallwch chi fod yn rhan o’n dyfodol.