Rydym ni’n credu bod pawb yn ein cymuned yn dysgu’n barhaus.
Mae sawl ffordd o gymryd rhan, o oleuo i wisgoedd, i ymladd llwyfan i ysgrifennu.
Rydym ni’n cynnig gweithdai unigryw i wirfoddolwyr, aelodau o’r gymuned, actorion llawrydd, cynhyrchwyr a phobl greadigol. Caiff y gweithdai eu harwain gan arbenigwyr o'r diwydiant creadigol ac maent yn cynnig llwybrau at gyfleoedd yn y dyfodol.
Bydd cyfleoedd newydd yn dod cyn hir, gwiriwch ein cyfryngau cymdeithasol i gael manylion.
Cynhelir yr holl hyfforddiant yn Neuadd Lesiant Pendyrus, RhCT.
I gadarnhau eich lle, anfonwch neges e-bost at hello@avant.cymru.
Mae Positive Porth yn brosiect sydd wedi deillio o Festy Porth.
Cofio’r gorffennol drwy greu dyluniadau ar gyfer caeadau a waliau yn #HannahStreet #Porth.
Gweithio gydag artistiaid graffiti o Gymru fel Tee2Sugars a gyda’r hanesydd lleol Laura sy’n ymchwilio i straeon papur newyddion Rhondda Leader i ddatblygu dyluniadau ar gyfer prosiect #PositivePorth.
Mae’r straeon yn cynnwys: Pleidleisiau i fenywod yn nodi amser ym 1908 pan ddaeth pobl at ei gilydd yn y Porth i helpu menywod i gael y bleidlais a dathlu pobl leol sydd wedi bod yn arloesol o ran grymuso’r gymuned yn y Porth.
Mae ein grant sefydlogi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru @LotteryGoodCauses yn ymwneud â’r gymuned yn dod ynghyd i gefnogi ein gilydd, a #gweithwyrllawrydd ac #artistiaid yn cydweithio â pherchnogion siopau lleol i greu rheswm arall dros ymweld â’n #strydfawr leol anhygoel #siopanlleol #AgorPorth
Write your caption here
Write your caption here
Write your caption here