Rydym ni bob amser yn estyn allan at y gymuned i glywed eich straeon, mae hynny wrth galon yr hyn rydym ni’n ei wneud. Rydym ni’n cynnig hyfforddiant a digwyddiadau er mwyn i chi allu dylanwadu ar ein gwaith, er enghraifft, rydym ni’n chwilio am bobl o’r Cymoedd i rannu eu straeon, eu syniadau a’u celf gyda ni.
Gwirfoddolwyr Aberfan. Yn ddiweddar, rydym wedi dechrau gweithio gyda Pharc Treftadaeth y Rhondda ac Archifau Morgannwg i gasglu llythyrau gan y bobl a wirfoddolodd ar ddiwrnod trychineb Aberfan. Bydd y llythyrau’n cael eu cadw’n ddiogel yn yr archifau tan 2066, pan fyddant yn cael eu rhoi i gymuned Aberfan i rannu’r hyn a wnaeth pobl i wirfoddoli ar y diwrnod.
Peidiwch ag oedi rhag cysylltu â ni, rydym ni bob amser yn fwy na pharod i sgwrsio!